Cwestiynnau cyffredin
Sut mae'r digwyddiad yn gweithio?
Byddwch yn troi i fyny, yn rhwydweithio a sgwrsio am ychydig, ac yna fydd pawb yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau ar gyfer pa sesiynau yr hoffent eu cynnal. Os yw'n well gennych, bydd gennym wirfoddolwyr a fydd yn hapus i gyflwyno'ch syniad ar eich rhan. Yna rhoddir amser ac ystafell i'r sesiynau, ac yna rydych yn rhydd i fynychu pa bynnag sesiynau yr hoffech.
Os byddaf yn cyflwyno sesiwn, a yw'n golygu bod yn rhaid i mi ei arwain?
Na! Gallwch chi arwain os hoffech chi, ond mater i'r grŵp sy'n dod i wneud y sesiwn yw beth sy’n mynd ymlaen.
​
Oes rhaid i mi gyflwyno unrhyw beth?
Na, dim pwysau o gwbl i arwain sesiwn
​
Lle yw’r digwyddiad?
BizSpace, Caerdydd, CFXXXXX. Am fwy o fanylion ar sut i’n cyrraedd ar y dydd, gwelwch gwefan SOMEWHERE.
Ble alla i barcio fy meic?
Mae yna ddigonedd o raciau beic o amgylch y lleoliad a ledledd Caerdydd.
Ble alla i barcio fy nghar?
Mae sawl maes parcio cyhoeddus o fewn pellter cerdded i'r lleoliad. [gol. Mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad, ond mae'r rhain yn opsiynau 2019]
o Q-Park Bae Caerdydd
o Maes Parcio Mermaid Quay
o Maes Parcio Havannah Street
Beth ddylwn i ddod a?
Mae rhai pobl yn dod â llyfryn nodiadau a gliniaduron i gymryd nodiadau. Ond oherwydd lle rydym yn eich cynghori i ystyried pacio yn ysgafn.
Ble alla i roi fy eiddo?
​
Mae gennym le cyfyngedig ar gyfer ystafell gotiau. Rydym yn annog pawb i fod yn gyfrifol am eu heitemau eu hunain.
I ychwanegu:
Opsiynau dros nos – unrhyw fargeinion â gwestai/llety a argymhellir ac ati.
Opsiynau trafnidiaeth eraill – rheilffordd, awyr (ond efallai cynghori yn erbyn hyn), carpool?