top of page
Beth yw GovCamp Cymru,
a sut mae anghynhadledd
yn gweithio?

Mae govcamp yn ddigwyddiad, a elwir hefyd yn anghynhadledd, lle mae’r mynychwyr yn arwain
y rhaglen - mae yna thema, neu gwestiwn trosfwaol, ond nid oes agenda manwl tan
y dechrau’r dydd pan fydd mynychwyr yn gwneud awgrymiadau ar gyfer yr hyn yr hoffent
siarad amdano

Edrychwch ar y fideo yma gan y tîm o Barod CIC a wnaed ar gyfer GovCamp Cymru 2017 am sut mae'r diwrnod yn gweithio

Pwy mae e ar gyfer?

Gall unrhywun sydd eisiau mynychu’r ddigwyddiad fynychu yn rhad ac am ddim: sector cyhoeddus/preifat/pa bynnag sector, ar gyfer gwaith neu os ydych yn angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a sut maen nhw’n effeithio ar ein bywydau.

Beth sy’n digwydd ar y diwrnod?

 

Mae sut rydyn ni’n rhedeg yr anghynhadledd yma yn dilyn egwyddorion Mannau Agored (Open Space principles), felly gall pobl crwydro i mewn ac allan o sesiynau, a gallwch ddefnyddio trydar, blogio, a tynnu lluniau i recordio a rhannu eich dysgu gyda’r byd y tu allan.

 

Ar ddechrau'r dydd bydd y grŵp cyfan yn ymgynnull ac yn cael eu tywys
trwy greu'r agenda. Mae gan bawb yno gyfle i gyflwyno sesiynau ar gyfer yr agenda, ac mae croeso i bob sesiwn.

Bydd pob cynrychiolydd yn cael cyfle i gynnig sesiwn; yna yn seiliedig ar lefel y diddordeb, dyrennir ystafell briodol i'r sesiwn (h.y. po fwyaf o ddiddordeb y mwyaf yw'r ystafell) a man ar yr agenda. Mae hyn yn parhau nes bod pob slot amser yn llawn.

Heb os, bydd y sesiynau'n amrywio o ran arddull: mae rhai yn feddyliau ffurfiol a baratowyd ymlaen llaw gan adlewyrchu ar flynyddoedd o ymchwil ... mae rhai yn syniadau newydd a fyddai'n wych sgwrsio trwyddo gyda cyfoedion ... fydd rhai'n cynnwys deor syniadau yn y fan a'r lle. Mae croeso i bob math!

Ychydig o gyngor...

  • Os ydych chi'n cynnal sesiwn, nid eich rôl chi yw cael yr holl atebion, dim ond gwahodd pobl i mewn i sgwrs

  • Nid oes y fath beth â methiant mewn anghynhadledd, mae pawb eisiau i'r sesiynau weithio.

  • Ewch gyda’r llif

  • Mae'r “gyfraith dwy droed” yn berthnasol: ewch i'r sesiynau sydd o
    ddiddordeb i chi, a phan fyddwch chi wedi dysgu cymaint ag y dymunwch, neu'n teimlo eich bod wedi cyfrannu cymaint ag y gallwch, defnyddiwch eich dwy droed, i symud ymlaen, a dod o hyd i sesiwn arall

  • Cymerwch cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun. Fe gewch chi allan ohono beth rydych chi'n ei roi ynddo. Os nad yw'r pwnc rydych chi am ei drafod ar yr agenda i ddechrau, yna mae angen i chi ei roi ymlaen

  • Joiwch!

Swnio fel eich math chi o beth?

Join our mailing list

Thanks for subscribing!

Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin

Oes dal
gyda chi gwestiynnau?

 

bottom of page