top of page

GovCamp Cymru: ffocws ar iaith a diwylliant


Mae Unboxed yn noddwyr balch GovCamp Cymru: anghynhadledd sy'n ymroddedig i ail-ddychmygu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma’r storïwraig, Kassie yn rhannu ei phrofiad o ddigwyddiad eleni.



Roedd yn ddiwrnod braf, cynnes a heulog pan gyrhaeddodd Jo a minnau Gaerdydd ar noswyl GovCamp Cymru 2022. Roedd y ddau ohonom mor gyffrous i gyrraedd, prin ein bod ni wedi rhoi ein bagiau i lawr cyn gadael ein llety ar frys. Aethom allan am ddiodydd cyn y gynhadledd i gwrdd â phawb y byddem yn treulio'r diwrnod canlynol yn GovCampio gyda hwy!


Roedd ein hymweliad yn cyd-daro gyda miloedd o bobl a oedd yng Nghaerdydd ar gyfer cyngerdd Stereophonics. Roedd y ddinas yn fwrlwm. Rhoddodd Jo ragolwg imi o fywyd prysur Caerdydd drwy ganu geiriau trawiadol o repertoire caneuon Tom Jones a oedd ar ei chof. Nid oedd y cyflwyniadau yn y dafarn ar noswyl GovCampCymru yn llawn y pryderon cymdeithasol arferol yr wyf yn eu cysylltu â dinasoedd newydd a phobl newydd - cawsom groeso mor gynnes gan Jo Carter, Katie, Bryan, Wyn a Gavin fel y teimlem yn gartrefol ar unwaith.



Machludodd yr haul ar ein noswaith gymdeithasol yn gyflymach na’r disgwyl; heb imi sylweddoli, roedd amser wedi byrlymu ‘mlaen wrth i ni sgwrsio hyd hanner nos : camgymeriad rookie! Nid oedd GovCamp hyd yn oed wedi dechrau ac eisoes roeddem wedi mentro i lawr llwybrau pynciau mor amrywiol â chynaliadwyedd, theori cymhlethdod a rhwydweithiau dosbarthu digidol amgen ar gyfer cerddoriaeth.


Ble fydden ni'n dod o hyd i'r egni ar gyfer cychwyn cynnar a diwrnod llawn arall o sgwrsio?


Fel Nadolig ond Gwell: Ein Cyflwyniad i GovCamp Cymru


Fe wnaeth prif drefnydd y digwyddiad, Jo Carter, ein hadfywio â hanesion doniol am freuddwydion gwahanol cafodd yn y cyfnod cyn y digwyddiad. Roedd un yn hunllef am giw o bobl yn pentyrru o flaen peiriant coffi oedd yn hollol sych. Ond, dim ond hunllef oedd hynny diolch byth; cawsom fwg coffi cludadwy wedi'u gwneud yn gyfan gwbl o ddeunydd wedi'i ailgylchu ac roedd fy un i yn cael ei ail-lenwi yn gyson.


Ochr yn ochr â theisennau blasus, roedd yna brydau fegan gan Captain Joys a gorgyflenwad o gacennau cwpan a oedd yn sicrhau nad oedd ein tanciau tanwydd ni’n gwagio yn ystod GovCamp Cymru 2022.


Hanes byr GovCamp Cymru


Lansiodd Jo Carter ac Esko Reinikainen y Govcamp Cymru cyntaf ar ôl cyfarfod mewn digwyddiad datrysiadau amgen yn 2014. Roedd y cyfarfod wedi’u hysbrydoli i ddechrau Satori Lab a oedd yn anelu at hacio diwylliant sefydliadau sector cyhoeddus. Roedd digwyddiadau adeiladu cymunedol fel GovCamp yn hanfodol i'r arlwy hwn.



Teimlai Jo ac Esko fod y diffyg llwyfan i gefnogi esblygiad ymarfer yn rhwystr i drawsnewid o fewn y sector cyhoeddus. Roeddent yn gwybod na fyddai cynhadledd ‘arferol’ yn gallu cynhyrchu'r math o greadigrwydd a chydweithio yr oeddent yn gobeithio eu meithrin. Felly fe wnaethon nhw droi at Dechnoleg Gofod Agored i'w helpu i ddylunio eu 'hanghynhadledd' gyntaf.


Sut mae anghynhadledd yn gweithio

Mae'r fformat 'anghynhadledd' yn seiliedig ar egwyddorion ‘strwythurau rhyddhau'; mae'r rhain yn rhagdybio bod cydbwysedd o anhrefn a strwythur yn cynnig y cyfle gorau ar gyfer gyfranogiad. Ac felly, yn groes i'r norm, nid oes ragolwg o’r cyflwyniadau arferol. Rydych chi'n cyrraedd, gennych 30 eiliad i gyflwyno pwnc, mae'r teitl yn cael ei ychwanegu at fwrdd y gall cyfranogwyr ddewis ohono ac yna mae’r hud a lledrith yn dechrau wrth i bwy bynnag sy'n cyrraedd, gyrraedd yr ystafell benodedig heb unrhyw rwymedigaeth i aros am yr holl weithdy neu ddigwyddiad.


Mae'r cysyniad wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth i gymuned glos dyfu o amgylch y digwyddiadau ers y cychwyn cyntaf.


Newid diwylliant fel thema sy'n uno

Yn GovCamp Cymru eleni, cyflwynodd dros 30 o bobl syniadau ar gyfer gweithdai. Roedd yna ystod eang o themâu o sbectrwm eang ond yn driw i’r dydd, y thema gyffredinol a oedd yn cysylltu'r holl syniadau hyn oedd cwestiwn newid diwylliant;


“Sut ydyn ni’n dylanwadu ar ddiwylliant?” Hynny yw, “sut mae cefnogi addasu ar y cyd cyflym?”


“Mae’r model sydd ar waith ar y sector cyhoeddus” eglurodd Cyfarwyddwr Create Change a chydlynydd SDinGov, Mark Dalgarno, “o dros ganrif yn ôl ac mae wedi cael ei barhau gan weision sifil. Fe weithiodd bryd hynny ond nid yw'n gweithio nawr.


Felly mae angen iddo newid ond ar gyflymder a graddfa hollol newydd er mwyn wynebu'r heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd presennol. Felly, “beth yw'r rhwystrau?” a “beth yw'r hwyluswyr?” gofynnodd Hebe Foster o We Are Telescope ac Azul.


Roedd pob sgwrs yn cael ei threiddio gan gwestiynau tebyg. Mae'n ymddangos bod newid diwylliant, yn gyffredinol, yn wirioneddol anodd ei sefydlu.


Mae'n anodd cydbwyso uwch-arweinyddiaeth a rheoli tîm


Sut gallwn ni ei gwneud hi'n haws?


Arweiniwyd y gweithdy cyntaf a fynychais gan Polly Thompson. Edrychodd Polly ar newid diwylliant o safbwynt arweinyddiaeth. Buom yn siarad am drugaredd ac mai un o sgil-effeithiau strwythurau trefniadol hierarchaidd o’r brig yw, er ein bod yn gwella o ran dysgu dangos tosturi tuag at y rhai y canfyddir eu bod yn is yn yr hierarchaeth, anaml mae trugaredd yn gallu teithio i fyny.


Wrth gwrs, roedd hon yn sgwrs hynod gynnil – ble ceir canolbwynt grym ac ymreolaeth ceir hefyd y baich a’r cyfrifoldeb. Disgrifiodd nifer o bobl yn yr ystafell ymdeimlad treiddiol o euogrwydd yn eu hatal rhag dweud ‘na’ neu ofyn am help. Thema a gododd dro ar ôl tro oedd y frwydr o gydbwyso anghenion sy’n aml yn annibynnol ar ei gilydd: lles, cyfyngiadau cyllidebol, pwysau i gyflawni ac yn y blaen.


Cafwyd nifer o awgrymiadau ymarferol a rhywfaint o dawelwch meddwl trwy eistedd mewn cylch a sgwrsio:


  • “Dwi ddim eisiau siarad mewn ffordd nawddoglyd, ond mae rhedeg busnes yn aml yn teimlo'n debyg i rianta. Yn yr un ffordd ag y mae'n rhaid inni dderbyn rhianta 'Digon Da', rwy'n meddwl bod angen inni ddysgu derbyn arweinyddiaeth 'Digon Da' hefyd. Mae'n agwedd a set o ymddygiadau sy'n arwain at rymuso a hwyluso yn hytrach na rheolaeth. Dydych chi byth yn mynd i wneud pethau'n iawn ac mae hynny'n iawn." - ‘Scrum Master’ proffesiynol

  • “Mae dweud ‘na’ yn anodd. Ond gofynnwch bob amser: ydw i'n bod yn gymwynasgar neu ydw i'n bod yn neis? Mae’n wahaniaeth pwysig.” - Athro o Brifysgol Caerdydd

  • “Dewch o hyd i lwybrau priodol ar gyfer cymorth. Mae rhaglenni mentora a hyfforddi traws-lywodraethol yn bodoli. Mae YLab wedi sefydlu rhaglen fentora ‘o chwith’ sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus.” - Arweinydd cartrefi sector cyhoeddus.

Mae newid diwylliant ym mhob achos, cytunodd pawb, yn llifo o'r top i'r gwaelod. Os ydym am i'n sefydliadau gael diwylliannau iach yna mae angen i arweinwyr ddangos sut beth yw 'iach' trwy osod esiampl dda. Mae gosod ffiniau, arweinyddiaeth drugarog ond cadarn ac ymaddasol a rhoi’r gorau i deimlo yn euog oll yn hanfodol i osod y naws ar gyfer sefydliadau iachach.


Daeth y sesiwn i ben ar nodyn calonogol ac ysgogol:


“Os na fyddwn yn ei wneud, sut allwn ni ddisgwyl i'r rhai sy'n edrych i fyny atom ni ei wneud?”


Delwedd gan Jo Carter


Creu amgylcheddau gwaith sy'n seiliedig ar drawma

Sut allwn ni ailgynllunio llwybrau recriwtio i gynyddu’r penodiad o dalent o gefndiroedd difreintiedig? A pan maen nhw yn eistedd ar bwyllgorau rheoli: sut y gallem greu amgylcheddau gwaith sy'n seiliedig ar drawma fel eu bod yn teimlo'n ddiogel?


Er mawr syndod i mi, roedd y gweithdy nesaf yn un yr oeddwn i wedi'i gynnig – ar bwnc sydd wedi bod yn fy meddyliau ers mynychu SDinGov y llynedd. Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag esblygiad dod â'r bobl yr ydych yn dylunio gwasanaethau ar eu cyfer ar y daith.


Yn y sector cyhoeddus, rydym yn aml yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol cymhleth gyda chanlyniadau sy'n dod i'r amlwg sy'n heriol i'w dadbacio. Yma, mae'r gwahaniaeth rhwng gwasanaeth sydd wedi'i ddylunio'n dda neu wedi'i ddylunio'n wael yn gallu ael goblygiadau enfawr ar lwybr bywyd unigolyn a’u gallu i oresgyn eu setiau penodol o heriau datblygiadol, perthynol ac economaidd; er enghraifft, llwyfan meddalwedd sy’n hwyluso lleoliadau gofal maethu.


Mae'r ddisgyblaeth 'Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr’' yn ymwybodol o'r diffygion sy'n gynhenid ​​wrth ddylunio gwasanaethau heb unrhyw ddealltwriaeth o gyd-destun na naws, ac yn ceisio unioni hyn trwy eirioli dros ymholiad empathetig. Fodd bynnag, mae disgyblaethau newydd megis 'Cyd-ddylunio' a 'Chyd-greu' yn ymwybodol o'r heriau o ran dileu 'tueddiadau ymchwil' yn gyfan gwbl ac yn codi’r cysyniad o rymuso defnyddwyr gwasanaethau i'r lefel nesaf.


Mae hyn i gyd yn galonogol iawn, ac yn arbennig o berthnasol i gyd-destun gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio polisi, boed yn 'UCD', 'Cyd-ddylunio' neu 'Cyd-greu.' Bydd y canfyddiadau a gesglir bob amser yn cael eu hidlo drwy lens yr ymchwilydd a bydd y penderfyniadau terfynol bob tro yn cael eu gwneud gan y rhai sy'n eistedd mewn ystafelloedd bwrdd gyda mynediad at gyllidebau. Yn y pen draw, rydym am gyrraedd man lle nad ydym yn rhoi ‘lleisiau i’r di-lais’ ond lle mae’r ‘di-lais’ yn siarad ac yn gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac, yn bwysicach fyth, yn cael eu talu am y cyfraniadau a’r gwerth y maent yn eu cynnig drwy eu meddwl amgen, eu gwytnwch, eu dewrder, eu gallu i addasu a’u profiad bywyd.


Mae hyn yn golygu amrywio ein gweithluoedd a demograffeg y rhai mewn swyddi arweinyddiaeth uwch trwy gynllunio piblinellau recriwtio gwell yn ogystal â llwybrau dilyniant. Mae ymwybyddiaeth eang o hyn eisoes ond sut gallwn ni gyflymu'r broses o'i sefydlu?


Gwelaf ddwy her yma.


Rhwystrau i'r profiad 'cywir'


Yn aml, nid yw'r bobl sydd fwyaf agored i oblygiadau cynllunio a darparu gwasanaethau cymdeithasol gwael yn dod o gefndiroedd sy'n cynnig y sicrwydd sydd ei angen i ddilyn model addysg linol, yn enwedig hyd at addysg ôl-uwchradd. Nid ydynt ychwaith yn aml yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen a fyddai'n eu galluogi i gymryd rhan mewn interniaethau di-dâl er mwyn ennill profiad. Maen nhw dan anfantais yr eiliad maen nhw wedi cyflwyno eu CV.


Y cwestiwn yw sut y gallem ailfeddwl am gynllun piblinellau recriwtio gyda'r amodau hyn dan ystyriaeth? Cwestiwn y mae Joanna Goodwin eisoes wedi bod yn ei ofyn gyda chynlluniau yn eu lle i dreialu polisi recriwtio newydd yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.


Cefnogi gweithwyr sydd â hanes o drawma

Yr ail her yw y bydd cyflogi unrhyw un o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol yn debygol o gysylltu â hanes o drawma. Mae hyn yn awgrymu heriau mewn sensitifrwydd ynghylch:

  • gwrthdaro wrth gyfathrebu

  • llywio canfyddiadau wedi gwrthodiad neu fethiant

  • rheoli adweithiau emosiynol i sbardunau anochel

  • adeiladu ymddiriedaeth er mwyn cefnogi perthnasoedd iachach lle’r oedd ymddiriedaeth wedi’i thorri

  • rheoli llesiant wrth deimlo’n llai gwydn i straen

  • cario’r un llwythi gwaith â phawb arall er derbyn llai o brofiadau, amlygiad a chefnogaeth gartref.

  • rheoli teimladau cyson o 'arallrwydd' a hunan-barch isel.

Nid yw brwydr gyda'r heriau hyn o reidrwydd yn cael ei hynysu i weithwyr â hanes trawmatig yn unig. Fel mae Barnardo's wedi nodi eisoes: mewn gwirionedd mae llawer o arferion sy'n seiliedig ar drawma yn arfer da. Mae'n iachach i bawb. Dylem ei normaleiddio.”


Meithrin gwytnwch ymhlith ein timau


Nodweddir gwytnwch gan ryngweithio rhwng parodrwydd unigolyn i dyfu drwy anghysur yn ogystal ag amgylchedd sy'n cynnig lefelau priodol o gymorth sy'n addasu i annog twf a datblygiad. Ni allwn reoli'r cyntaf ond ni sy'n gyfrifol am yr olaf.


Roedd yn amhosibl dadbacio’r cwestiwn o fynd i’r afael â diffygion recriwtio a chymorth trawma mewn dim awr ond roedd yn teimlo’n dda creu man diogel lle gallai pawb siarad amdano. Yn enwedig yn sgil COVID, argyfyngau ffoaduriaid ac eco-bryder lle mae cymorth trawma yn dod yn gynyddol anochel i arwain newid diwylliant sefydliadol cadarnhaol.


Sut mae creu amgylcheddau gwaith sy’n seiliedig ar drawma? Bellach, mae hwn yn gwestiwn cyffredinol.


Diolch yn fawr iawn i: Hebe Foster, Leon Stafford a'r criw a fynychodd am eich cyfraniadau, gan obeithio gallwn ni barhau gyda'r sgwrs.


Meithrin cydberthnasau empathetig


Sut gallwn ni feithrin perthnasoedd empathetig rhwng llunwyr polisi a gwasanaethau rheng flaen? Sut allwn ni bontio'r bwlch polisi / cyflawni?


Roedd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar gwestiwn cyfunol a ofynnwyd gan Hebe Foster o We are Rocket ac Azulita o Mighty Blue. Mae'n gwestiwn sy'n magu cryn dipyn o sylw mewn sgyrsiau cymunedol sector cyhoeddus ar-lein wrth i ddylunwyr sylweddoli oferedd datblygu technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio os nad yw polisïau hefyd yn esblygu ac yn symud i gefnogi gweithredu.


Gan glymu'n ôl i themâu sy'n codi dro ar ôl tro ynghylch yr angen i bontio seilos ac annog tryloywder er mwyn cydweithio'n fwy effeithiol, meddai Hebe,

“Mae'r her hon ynghylch llunwyr polisi a gweithwyr rheng flaen yn dangos empathi tuag at ei gilydd.” Ychwanegod Azulita,

“Mae hyn yn creu bwlch mawr rhwng y ffordd y mae polisïau’n cael eu hystyried a’u heffaith ar y byd go iawn.”


Awgrymodd gweddill y grŵp atebion a oedd yn pwysleisio:

  • Pwysigrwydd adrodd straeon fel ffordd o annog empathi

  • Pwyso ar “arbenigedd unigol yn ogystal â mewnwelediadau o gydweithio ar y cyd” wrth weithio trwy broblemau.

Cynigiwyd adnodd arall gan One Team Gov. Maent wedi bod yn gweithio'n galed i adeiladu cymunedau lleol a byd-eang i gefnogi gwell dylunio gwasanaethau cyhoeddus. Cyflwynodd James Reeve eu hastudiaeth achos. Mae'n wneuthurwr polisi yn yr Adran Addysg lle maent wedi bod yn datblygu gwasanaeth ardoll prentisiaethau.



Crynhoad o feddyliau am iaith a diwylliant


I mi, daeth GovCamp Cymru i ben nid ar y nos Wener ond ar fy nhaith i’r Bannau Brycheiniog y diwrnod canlynol. Cymerais ychydig o amser ychwanegol i archwilio a dysgu am hanes a diwylliant Cymru.


Wrth i mi brosesu’r holl wybodaeth a lwythwyd i lawr o’r diwrnod cynt, ystyriais thema gyffredinol yr anghynhadledd; sef yr eirfa sy’n sylfaenol gysylltiedig â newid diwylliant.

“Lle mae empathi yn methu a chydweithio’n methu, mae’n aml yn deillio o gam-gyfathrebu syml. Gan weithio mewn timau amlddisgyblaethol, traws-sector – fy mhrofiad i yw, er, yn dechnegol, ein bod yn siarad yr un iaith – mae'r geiriau a ddefnyddiwn a'n dehongliadau o ystyr pethau yn aml yn dra gwahanol. Er enghraifft, yr hyn y mae dylunwyr gwasanaeth yn ei alw'n 'ymchwil defnyddwyr', gallai llunwyr polisi alw'n 'ymgynghoriadau'.”


Roedd Jo Badman o We Are Basis hefyd yn cytuno’n llwyr â’r teimlad bod iaith yn sylfaenol i ddiwylliant.


Yn aml, mae geiriau fel 'ystwyth' a 'trawsnewid' yn dechrau gyda diffiniadau cryf sydd wedi'u diffinio'n glir, ond dros amser efallai y byddant yn mynd ar goll wrth gyfieithu yn y naid rhwng theori a’u defnydd ymarferol. Mae hyn yn aml yn arwain at ddiffiniadau gwanedig sy'n arwain at ymadroddion newydd fel 'lludded trawsnewid.'


Er mwyn osgoi hyn, mae'n rhaid i ni ailddiffinio geiriau yn barhaus ac ail-greu ystyron a naratifau a rennir. Hyn, a wneir dro ar ôl tro dros y tymor hir, sy'n gyrru ac yn sefydlu diwylliant.

“Dyma beth sydd wedi llunio ymagwedd gyfan System Dylunio Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol,” ychwanegodd Esko Reineken.


Mae'r ddealltwriaeth hon bod angen newid eich geirfa er mwyn newid diwylliant yn arfer sy’n sail i’n gwerthoedd yn Unboxed: dysgu'n barhaus, dysgu trwy wneud gyda gofal a sylw ar gyfer perthnasoedd iachach er mwyn llywio cymhlethdodau yn well.


Ydy hon yn sgwrs yr hoffech chi ymuno ynddi?


Rhowch wybod i ni:





0 comments

Opmerkingen


bottom of page