Mae'n newyddion cyffrous y gallwn unwaith eto gynnal GovCamp Cymru ar 23ain Mehefin 2023.
Cynhelir y digwyddiad eleni yn Biz Space yng Nghaerdydd o 9:30am. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad cymdeithasol gyda'r nos yn Pie Minister o 4:30pm, ac i bobl sy’n gallu cyrraedd Caerdydd yn gynnar, ambell i lymaid ar y noson cynt o 8pm yn Daffodil, y dafarn!
Mae'r anghynhadledd hon dan eich rheolaeth chi. Chi sy’n gosod yr agenda, arwain y sesiynau, ac yn rhannu eich gwybodaeth a'ch angerdd â'r gymuned, nid trefnwyr y gynhadledd.
Mae'r anghynhadledd yn caniatáu i chi gael sgyrsiau ystyrlon, gan eich galluogi i rannu eich meddyliau a'ch syniadau. Nid oes y fath beth â syniad drwg yn bodoli mewn anghynhadledd, a cheir croeso i gyfraniad pawb.
Gwerth rhwydweithio
Rydym yn byw mewn Cymru sy'n newid yn gyflym. Mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Mae GovCamp Cymru yn cyfle i chi ystyried sut i fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Mae pawb sy'n mynychu GovCamp Cymru yn cael cyfle i gynnig thema sesiwn, does dim angen i chi gynnal y sesiwn rydych chi'n ei chynnig hyd yn oed. Mae hyn yn gyfle gwych i sgwrsio am syniadau newydd gyda chyfoedion ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Llynedd cawsom adborth gwych:
"Cymysgedd gwych o bobl a safbwyntiau - sgyrsiau diddorol iawn"
"Gwych cwrdd â chymaint o gynghreiriaid"
"Diwrnod o syniadau llawn dop diolch @govcampcymru"
Peidiwch oedi, bydd modd ymgeisio am y tocynnau diwethaf trwy wefan Gov Camp Cymru.
Peidiwch ag anghofio rhannu’r digwyddiad hwn drwy eich blogiau, trydar, a sianeli eraill gan ddefnyddio'r hashnod #gccy23
Comments